Cynllun Gwobrau Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug 2024
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gofyn i drigolion y dref enwebu unigolion ar gyfer Cynllun Gwobrau Cymunedol yr Wyddgrug 2024.  Mae’r cynllun yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad ac ymroddiad y grwpiau neu’r unigolion hynny sy’n byw neu sy’n gweithio yn Nhref yr Wyddgrug neu sy’n rhoi cymorth i drigolion y dref.
Rydych chi’n gallu cyflwyno faint fynnwch chi o enwebiadau, a gallwch enwebu rhywun ym mhob un o’r pum categori neu un enwebiad yn unig.  Os hoffech enwebu mwy nag un unigolyn/grŵp yn yr un categori, yna bydd angen ichi gyflwyno ffurflen ychwanegol.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 10 Ebrill 2024.

Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.uk

Byddwch cystal â rhoi’ch enwebiadau isod, gan gynnwys manylion cysylltu’r unigolyn yr ydych yn ei enwebu.
Gwybodaeth GDPR - bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei rhoi ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan Gyngor Tref yr Wyddgrug trwy gydol proses y gwobrau yn unig, ac wedi hynny bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu.  Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn cadarnhau na fydd manylion cysylltu personol yn cael eu rhoi i unrhyw drydydd parti.
Sign in to Google to save your progress. Learn more
Eich enw (yr unigolyn sy’n llenwi’r ffurflen) *
Eich rhif ffôn cysylltu
Eich cyfeiriad e-bost
*
Enwebiadau  
Mae pum categori ar gyfer yr enwebiadau.  Byddwch cystal â rhoi manylion yr unigolyn yr ydych yn ei enwebu yn y categori priodol.  Rhaid ichi gynnwys enw’r unigolyn/busnes/grŵp a rhoi’r rheswm pam yr ydych yn eu henwebu.  Os ydych chi’n gwybod beth yw eu manylion cysylltu, byddwch cystal â’u cynnwys; os ydynt yn cael eu dewis gan ein panel beirniadu, yna bydd angen inni gysylltu â hwy.  Mae PAWB sy’n cael eu henwebu yn gorfod bod yn unigolyn/unigolion sy’n byw neu sy’n gweithio yn Nhref yr Wyddgrug neu sy’n rhoi cymorth i drigolion yr WyddgrugUntitled title
Gwobr am wirfoddoli - Ar gyfer unigolion neu grwpiau dan 25 oed sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned trwy wirfoddoli.
Gwobr am wirfoddoli - dan 25 oed  rheswm dros enwebu
Gwobr am wirfoddoli - Gwobr am wirfoddoli -  Ar gyfer unigolion neu grwpiau 25 oed a hŷn sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned trwy wirfoddoli.
Gwobr am wirfoddoli -   25 oed a hŷn -  rheswm dros enwebu
Busnes y Flwyddyn - Busnes, boed yn fanwerthwr, stondinwr marchnad neu ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ymrwymo i fod o wasanaeth i’w gymuned, trwy wneud gwaith elusennol neu drwy’r gwasanaeth eithriadol y mae o’n ei roi.  
Busnes y Flwyddyn  -  rheswm dros enwebu
Gwobr Llwyddiant mewn Chwaraeon - Mae’r wobr yn cael ei rhoi i’r unigolyn neu’r grŵp sydd wedi cyflawni camp ragorol, dangos gallu rhagorol neu annog pobl eraill i gymryd rhan mewn gweithgaredd ym myd chwaraeon.  Fel unigolion, efallai y byddant wedi rhoi hyfforddiant, ymarfer neu gymorth gweinyddol i glwb neu grŵp chwaraeon.
Gwobr Llwyddiant mewn Chwaraeon  -  rheswm dros enwebu
Gwobr Prosiect Cymunedol/Digwyddiad y Flwyddyn - Prosiect/Digwyddiad yw hwn sydd wedi cael llwyddiant yn y gymuned.  Rhoi cefnogaeth i bobl leol boed hynny fel grŵp neu un ag un - fe allai fod yn sefydliad trydydd sector â phrosiectau sydd wedi cael effaith hirbarhaol ar y gymuned, fel digwyddiad cymunedol efallai, neu ddigwyddiad codi arian at elusen neu brosiect amgylcheddol sydd wedi bod o fudd i’r gymuned gan fod pobl wedi dysgu sgiliau newydd ac ati.
Gwobr Prosiect Cymunedol/Digwyddiad y Flwyddyn    -  rheswm dros enwebu
Diolch ichi am eich enwebiad(au).  Bydd yr holl enwebiadau yr ydym yn eu derbyn yn cael eu beirniadu gan Bwyllgor Gwobrau Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug, a bydd yr enillwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn Seremoni Gwobrau.  Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu faterion eraill o bwys ichi, mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.ukUntitled title
Submit
Clear form
Never submit passwords through Google Forms.
This content is neither created nor endorsed by Google. Report Abuse - Terms of Service - Privacy Policy